Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:02 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Peter Black Mike Hedges Mark Isherwood Bethan Jenkins Gwyn R Price Ken Skates Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson (Cadeirydd) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Peter Gomer, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Peter Tyndall, Ombudsman for Wales Susan Hudson, Policy and Communication Manager |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) P Gareth Williams (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a Janet Finch Saunders ac nid oedd dirprwyon.
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn
Cytunwyd ar y cynnig.
3. Sesiwn i roi gwybodaeth friffio dechnegol am 'Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell'
Cafodd y Pwyllgor frîff ar Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell. Holodd yr Aelodau y swyddogion oedd yn bresennol.
4. Blaenraglen waith y pwyllgor - craffu ar y gyllideb
Cytunodd y Pwyllgor ar y broses o graffu ar y gyllideb nesaf, a chytunodd y Clerc i anfon rhagor o fanylion i’r Aelodau ar e-bost yn ystod toriad yr haf.
5. Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Peter Gomer o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Holodd yr Aelodau y tyst.
6. Ystyried adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2011-12
Croesawodd y Cadeirydd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, i’r Pwyllgor.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a holwyd yr Ombwdsmon ar yr adroddiad.
Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y Panel Cynghori.
7. Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
7.1 CELG(4)-17-12 - Papur 3 - Tystiolaeth gan ITV Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed
7.2 CELG(4) -17-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed
8. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunwyd ar y cynnig i gyfarfod yn breifat yn ystod eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 11 Gorffennaf.
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.